GOLWG GYFFREDINOL

Croeso i wefan CGGC, gobeithio y bydd o ddefnydd mawr i chi.

Gemau’r Gymanwlad yw’r unig achlysur aml-gemau yr ydym ni, fel Cenedl, yn cystadlu ynddo ac, i lawer o athletwyr, hwn yw’r unig gyfle iddynt gynrychioli eu gwlad, Cymru.  Felly, mae’n fraint ac yn anrhydedd bob amser cael eich dewis i gynrychioli eich camp fel aelod o Dîm Cymru ac mae’n anrhydedd fawr iawn i mi fod yn Llywydd CGGC a hybu chwaraeon Cymru.

Mae cryn baratoi’n digwydd ar gyfer Gemau’r Ieuenctid yn Pune yn 2008 a Gemau’r Gymanwlad yn Delhi yn 2010. Unwaith eto, mae Bwrdd Cyfarwyddwyr CGGC yn rhoi lle blaenllaw iawn i anghenion yr athletwyr fel rhan o’r paratoadau hyn.  Ar gyfer tîm yr Ieuenctid a thîm Gemau’r Gymanwlad, mae disgwyl i’r athletwyr ddangos ymrwymiad, ymroddiad a phenderfyniad.  Mae ein hathletwyr presennol yn esiampl wych a bydd eu perfformiadau a’u hymddygiad yn ysbrydoli a chymell athletwyr y dyfodol.

Bydd y Gemau hyn yn un o sialensau mwyaf eu bywyd.  Bydd yn golygu ennill medalau a hefyd cyrraedd nodau personol – bod y gorau y gallwch fod, er eich mwyn eich hun, eich camp a’ch gwlad.                                   

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae’n rhaid i ni i gyd – yn Gyfarwyddwyr, yn staff Meddygol, yn Hyfforddwyr ac yn staff y Cyrff Rheoli – ymroi i gydweithio er mwyn cyrraedd ein nod cyffredin, sef cefnogi ein Hathletwyr i berfformio hyd eithaf eu potensial yn Pune ac yn Delhi.

I bawb cysylltiedig â chwaraeon y Gymanwlad, fy neges i yw “ewch amdani a mwynhewch y profiad”.                     

Anne Ellis