CYFARWYDDWYR
Croeso i’n gwefan sydd wedi cael ei chreu i weithredu fel canolfan wybodaeth i’n hathletwyr, ein haelodau ac unigolion a chyrff eraill gyda diddordeb. Rydym yn gwerthfawrogi eich barn a’ch cyfraniadau, felly cofiwch ddefnyddio’r safle hwn i rannu gwybodaeth.
Daeth Bwrdd presennol Cyngor Gemau’r Gymanwlad Cymru i fodolaeth ddeuddeg mis yn ôl yn unig, cyn Gemau 2006 ym Melbourne. Gwnaed ymdrech fawr iawn gan griw o wirfoddolwyr dan arweiniad David Evans, a oedd wedi’i secondio o Gyngor Chwaraeon Cymru. Roedd y criw yma, a oedd yn cynnwys Cyfarwyddwyr y Bwrdd, yn brwydro’n erbyn y cloc er mwyn sicrhau bod y Tîm a oedd yn cael ei anfon i Gemau 2006 wedi’i baratoi’n drwyadl.
Gan ddechrau gyda dalen lân bron, sefydlwyd pwyllgorau dethol, teithio, dillad, meddygol a chyllid, ac o fewn cyfnod cymharol fyr o amser, gwelwyd y cynlluniau’n dod i drefn.
O ganlyniad i’r gwaith a wnaed, gwelwyd Tîm rhagorol yn cynrychioli Cymru. Mwynhaodd yr aelodau eu hunain ac fe’u gwelwyd yn rhoi pleser mawr hefyd i nifer fawr o blant yn ardal Melbourne, y ‘mabwysiadwyd’ eu hysgolion gennym. Gwelwyd aelodau Tîm Cymru’n gwneud eu rhan yn dda ac yn gwneud llawer o ffrindiau.
Mae’n ddiddorol nodi ein bod yn dechrau gweld rhai o’n ffrindiau yn Awstralia yn dechrau ymweld â ni yma o ganlyniad i’r Gemau a’r cyfeillgarwch a ffurfiwyd. Mae’r cynlluniau ar gyfer Gemau Ieuenctid Puna yn Hydref 2008 a’r Gemau Cymanwlad nesaf yn Delhi yn 2010 wedi’u datblygu’n helaeth bellach.
Ochr yn ochr â chynllunio ar gyfer y dyfodol, mae’r Bwrdd yn ceisio casglu hanes Cyngor Gemau’r Gymanwlad yma yng Nghymru at ei gilydd. Rydym eisiau cael hyd i ddogfennau ac arteffactau er mwyn creu cofnod parhaol o gysylltiad Cymru â mudiad Gemau’r Gymanwlad.
Os oes gennych unrhyw gofnodion am CGGC, a wnewch chi eu rhannu gyda ni os gwelwch yn dda, er mwyn sicrhau cofnod ar gyfer athletwyr y dyfodol, sy’n cynrychioli eu gwlad. Yn ystod ein hymweliad ag Awstralia, roeddem wrth ein bodd yn darganfod bod un o’n tîm, Malcolm Collins (Rheolwr y Tîm Bocsio), wedi cludo’r faner yng Ngemau’r Ymerodraeth yng Nghaerdydd. Beth arall sydd i’w ddarganfod? Er mwyn ein goleuo, cysylltwch â Chris Jenkins gydag unrhyw wybodaeth sydd gennych, waeth pa mor fach neu fawr mae’n ymddangos.