CYFEILLION Y GEMAU

Cyfeillion Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru

Ar hyn o bryd, mae CGGC yn chwilio am griw o Gyfeillion a fydd yn cefnogi Delhi 2010 ac yn adeiladu ar lwyddiant Melbourne 2006. Gelwir y clwb unigryw hwn yn Gyfeillion Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru.

Gemau’r Gymanwlad yw’r unig achlysur aml-gemau y mae Cymru’n gallu cystadlu ynddo fel gwlad. Mae Cymru’n gwneud yn well na’r disgwyl yn draddodiadol yng Ngemau’r Gymanwlad ac enillwyd mwy o fedalau y pen na Lloegr, yr Alban ac Iwerddon, o ran poblogaeth y wlad, gan Gymru ym Melbourne 2006.  

Sut i fod yn Gyfaill i Dîm Cymru 2010

Gall Unigolion neu Gwmnïau Bychain sy’n fodlon cyfrannu lleiafswm o £1000 yn ystod y pedair blynedd hyd at Gemau Cymanwlad Delhi 2010 fod yn Gyfeillion Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru.  Yn ychwanegol at fod yn rhan o Dîm Cymru a chynorthwyo gyda’r paratoadau, bydd pob cyfaill yn derbyn nifer o fanteision.           
   
Athletwyr Cymru yw rhai o’i hwynebau mwyaf cyfarwydd, Nicole Cooke, David Davies, Michela Breeze, Y Fonesig Tani Grey-Thompson a Rhys Williams i enwi dim ond rhai.  Mae’r amrywiaeth eang o chwaraeon yng Ngemau’r Gymanwlad yn creu cyfle i Gyfeillion gyrraedd sawl adran o’r farchnad yng Nghymru.

Er mwyn anfon Tîm Cymru i Gemau Cymanwlad Delhi 2010, mae’n rhaid i Gymru godi cyfanswm o £500,000. Beth am fod yn Gyfaill i Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru a chefnogi Cymru a derbyn manteision am y pedair blynedd llawn yn ystod y cyfnod yn arwain at y Gemau.  Hefyd, bydd Tîm Cymru’n anfon cynrychiolwyr i Gemau Cymanwlad yr Ieuenctid yn 2008 yn Pune, yr India.

Cysylltwch â   
Chris Jenkins yn swyddfa CGGC ar 02920 664990
Neu anfonwch e-bost at chris.jenkins@teamwales2010.co.uk