CYNLLUNIAU’R DYFODOL


Gemau Delhi 2010

Bydd dinas Delhi, sy’n gartref i 13.8 miliwn o bobl, yn cynnal Gemau’r Gymanwlad yn 2010. Dyma’r tro cyntaf i India gynnal y Gemau a dim ond yr ail dro yn unig iddynt gael eu cynnal yn Asia (Kuala Lumpur yn 1998 oedd y tro cyntaf). 

Dyddiadau’r Gemau yw 3 - 14 Hydref 2010, yn cynnwys y Seremonïau Agoriadol a Chloi.              
Bydd y stadiymau presennol a stadiymau newydd yn cael eu defnyddio ar gyfer cynnal cystadlaethau yn y campau a ganlyn:

Saethyddiaeth, Gweithgareddau Dyfrol, Athletau, Badminton, Bocsio, Beicio, Cystadlaethau i Athletwyr Elitaidd gydag Anabledd (AEA), Gymnasteg, Hoci, Bowlio Lawnt, Pêl Rwyd, Rygbi 7, Saethu, Sboncen, Tenis Bwrdd, Tenis, Codi Pwysau a Reslo.  

Gemau Cymanwlad yr Ieuenctid, Pune 2008

 

Cynhelir trydydd Gemau Cymanwlad yr Ieuenctid gan Pune mewn un lleoliad chwaraeon – Dinas Chwaraeon ryfeddol Shiv Chhatrapati, Balewadi. 

Y nodwedd arbennig a berthyn i’r achlysur hwn yw y bydd yr holl ddisgyblaethau chwaraeon yn cael eu cynnal dan un to am y tro cyntaf yn hanes Gemau Cymanwlad yr Ieuenctid.                      

Chwaraeon a Digwyddiadau yng Ngemau’r Ieuenctid: Bydd Gemau Cymanwlad yr Ieuenctid 2008 yn cynnwys cyfanswm o 9 disgyblaeth, yn cynnwys Athletau, Badminton, Bocsio, Saethu, Nofio, Tenis Bwrdd, Tenis, Codi Pwysau a Reslo.