Y GEMAU
Strwythur y Gemau
Cynhelir Gemau’r Gymanwlad bob pedair blynedd. Cynhaliwyd y Gemau diwethaf ym Melbourne yn 2006. Cynhelir y Gemau nesaf yn Delhi yn 2010. Mae Gemau’r Gymanwlad, sy’n cael eu hadnabod fel y Gemau Cyfeillgar, yn denu 71 o wledydd i gystadlu dros gyfnod o bythefnos. Yn 2006, cymerodd 5,766 o athletwyr a swyddogion ran mewn 16 o gampau.
Yn y dyfodol, bydd 17 o gampau’n rhan o’r Gemau, yn cynnwys 4 camp i dimau. Bydd pob un o’r Gemau’n cynnwys 10 camp graidd, Athletau, Nofio, Badminton, Bocsio, Hoci, Bowlio Lawnt, Pêl Rwyd, Rygbi Saith, Sboncen, Codi Pwysau.
Hefyd, gall y wlad sy’n cynnal y Gemau ddewis 7 camp arall o blith y rhestr a ganlyn:
Saethyddiaeth, Pêl Fasged, Beicio (Ffordd, Mynydd, Trac), Deifio, Gymnasteg (Artistig, Rhythmig), Jiwdo, Saethu (Targedau Clai, Bôr Llawn, Pistol a Bôr Bychan), Tenis Bwrdd, Triathlon a Reslo.
Cynhelir y gystadleuaeth dros gyfnod o 11 diwrnod, a’r seremoni agoriadol.
Seremoni Agoriadol Melbourne 2006
Gemau’r Ieuenctid
Mae Gemau’r Ieuenctid yn ychwanegiad cymharol newydd at yr amserlen gystadlu Ryngwladol, ar gyfer cystadleuwyr sy’n 18 oed neu’n iau. Cynhelir Gemau Cymanwlad yr Ieuenctid am y trydydd tro yn 2008 yn yr India. Yn y dyfodol, cynhelir Gemau’r Ieuenctid bob pedair blynedd, o 2011 ymlaen. Mae pob un o diriogaethau’r Gymanwlad yn derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yng Ngemau Cymanwlad yr Ieuenctid.
Ni fydd GCI yn para mwy na saith niwrnod, yn cynnwys un Diwrnod Diwylliannol gan y wlad sy’n cynnal y Gemau. Bydd Rhaglen Chwaraeon GCI yn cynnwys lleiafswm o chwech ac uchafswm o wyth camp wedi’u dewis o blith y rhai a restrir uchod yn adran Gemau’r Gymanwlad. Gall un o’r chwaraeon ar y rhaglen fod yn gamp dîm gymeradwy. Ni fydd unrhyw chwaraeon yn orfodol.