HANES
Hanes Gemau’r Gymanwlad
Cynhaliwyd Gemau’r Gymanwlad am y tro cyntaf yn 1930 yn Hamilton Ontario, Canada, a chymerodd unarddeg o wledydd a 400 o athletwyr ran ynddynt. Ers hynny, mae’r Gemau wedi’u cynnal bob pedair blynedd ac eithrio 1942 a 1946, oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
Rhwng 1930 a 1950, gelwid y Gemau yn Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig, ac yna’n Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad tan 1962. Rhwng 1966 a 1974, eu teitl oedd Gemau Cymanwlad Prydain ac yna, o 1978 ymlaen, maent wedi cael eu galw’n ddim ond Gemau’r Gymanwlad.
Tra bo Gemau eraill ym mhob cwr o’r byd wedi’u sylfaenu ar ffactorau daearyddol neu hinsawdd, fel y Gemau Asiaidd, Pan Am, Affricanaidd a Gemau Olympaidd y Gaeaf, mae Gemau’r Gymanwlad wedi’u sylfaenu ar hanes. Ymhlith nodweddion unigryw Gemau’r Gymanwlad mae’r ffaith mai dyma’r unig Gemau sy’n rhannu iaith gyffredin. Gall yr athletwyr a’r swyddogion i gyd sgwrsio gyda’i gilydd yn Saesneg, gan greu awyrgylch sydd wedi arwain at alw Gemau’r Gymanwlad ers peth amser yn 'Gemau Cyfeillgar'.
Mae’r cwlwm sy’n cael ei greu gan Gemau’r Gymanwlad yn helpu i annog a chefnogi iechyd a ffitrwydd ym mhob un o’r 71 o wledydd ac yn ysbrydoliaeth i ieuenctid geisio sicrhau rhagoriaeth.
Mae Cymru wedi cystadlu ym mhob un o’r 18 o Gemau Cymanwlad sydd wedi’u cynnal ac yn y Gemau diweddaraf ym Melbourne yn 2006, enillwyd 19 o fedalau ganddynt.
Yn 2000, cynhaliwyd y Gemau Cymanwlad cyntaf i ieuenctid yng Nghaeredin ar gyfer athletwyr 18 oed neu iau. Yn 2008, bydd Pune yn yr India yn cynnal y trydydd Gemau i Ieuenctid.
Cynhelir y Gemau Cymanwlad nesaf yn Delhi yn 2010.