PENCADLYS
Staff y Pencadlys – Prif Weithredwr
Mae’n hanfodol bod CGGC yn penodi staff effeithlon ac effeithiol ar gyfer ei bencadlys, staff sy’n gwbl ymroddedig a chefnogol i athroniaeth “athletwr-ganolog” Cocas. Mae gan staff y pencadlys gyfrifoldeb i Dîm Cymru i sicrhau ei fod yn creu’r amgylchedd gorau posibl fel bod pob athletwr yn gallu cyrraedd ei lawn botensial a chael y cyfle gorau i lwyddo yn y Gemau.
Arweinir staff y Pencadlys gan y Prif Weithredwr, sy’n arweinydd cyffredinol Tîm Cymru ac yn brif siaradwr ar ran y Tîm cyn ac yn ystod y Gemau.
Y Prif Weithredwr sy’n gyffredinol gyfrifol am reoli’r Tîm a bydd yn gweithio gyda Rheolwr y Tîm i sicrhau bod unrhyw faterion a all godi’n cael eu datrys yn effeithiol oddi mewn i’r Tîm, neu gyda FfGG a’r pwyllgor sy’n trefnu yn y Gemau.
Mae dyletswyddau’r Prif Weithredwr cyn y Gemau’n cynnwys
* Datblygu polisïau’r Tîm gyda CGGC
* Mynychu cyfarfodydd o Bwyllgor Gweithredol CGGC, y Bwrdd a’r grwpiau gweithredol, fel y bo angen
* Cadeirio cyfarfodydd rheoli’r Tîm cyn y Gemau
* Cynrychioli Tîm Cymru mewn digwyddiadau swyddogol
* Ymwneud â dewis staff rheoli’r Tîm
* Mynychu hyfforddiant staff cyn y Gemau
* Arwain ymweliadau rhagchwilio
* Datblygu ethos ac ysbryd ‘Tîm Cymru’
* Enwebu Capten a Chludwr Baner y Tîm
Bydd y dyletswyddau yn ystod y Gemau’n cynnwys:
* Prif siaradwr y Tîm yn y Gemau
* Cynrychioli Tîm Cymru mewn digwyddiadau swyddogol perthnasol, e.e. Derbyniadau’r Tîm, Cynadleddau i’r Wasg y Tîm
* Cadeirio cyfarfodydd rheoli’r Tîm
* Mynychu cyfarfodydd dyddiol y Prif Weithredwyr
* Cefnogi’r Tîm mewn digwyddiadau a seremonïau cyflwyno medalau
* Goruchwylio’r gwaith o weithredu polisïau a gweithdrefnau CGGC
* Hybu ac annog aelodau’r Tîm i gefnogi a pharchu ei gilydd, ac felly meithrin ysbryd da ymhlith y Tîm
* Cynnal ysbryd y Tîm
* Sicrhau y cedwir at y Cod Ymddygiad yn unol â chytundebau Aelodau’r Tîm a rheoli unrhyw faterion sy’n codi
* Dewis Cludwr y Faner ar gyfer y seremoni gloi
Wedi’r Gemau
* Ymwneud â llunio adroddiadau ac argymhellion ar gyfer Gemau’r dyfodol
* Mynychu holl swyddogaethau CGGC wedi’r Gemau.
Mae’n hanfodol bod y Prif Weithredwr yn gallu gweithio fel aelod o dîm ac arwain y tîm hwnnw. Mae’n rhaid i’r Prif Weithredwr feddu ar sgiliau rhyngbersonol da a bod yn gyfathrebwr effeithiol. Mae’n rhaid iddo fod yn frwdfrydig ac yn hawdd siarad ag ef, gan ddangos parch at yr athletwyr a’r staff i gyd drwy gydol ei dymor gwasanaethu, a bod ar gael iddynt.