RHEOLWYR Y TIMAU

Rheolwyr y Timau

Yn ogystal â Rheolwr Cyffredinol y Tîm – sy’n gyfrifol am fuddiannau Tîm Cymru i gyd tra yn y Gemau – mae gan bob camp ei Rheolwr Tîm penodol ei hun. 
Mae mynd â thîm o athletwyr sydd wedi’u hyfforddi i safonau uchel iawn filoedd o filltiroedd i ffwrdd weithiau i gyrrau eithaf y byd a sicrhau bod pob un o’u hanghenion yn cael eu diwallu fel eu bod yn gallu canolbwyntio ar berfformio hyd eithaf eu gallu’n medru bod yn gryn her.
Dyma rai ffactorau y dylai Rheolwr Tîm eu hystyried:

  • Cludiant  
  • Cynefino â hinsawdd
  • Parthau amser
  • Cyfleusterau hyfforddi
  • Llety         
  • Gofynion deietyddol  
  • Gofal meddygol a ffisiotherapi
  • Cefnogaeth Gwyddoniaeth Chwaraeon
  • Diflastod wedi mynd allan o’r gystadleuaeth a hyfforddi

Er mwyn i athletwyr allu perfformio hyd eithaf eu gallu, mae’n rhaid  rhoi ystyriaeth briodol i’r uchod i gyd a’u cynllunio’n ofalus.  Bydd Rheolwr Tîm da’n sicrhau nad oes gan athletwyr unrhyw beth i boeni yn ei gylch – ar wahân i sicrhau’r perfformiad personol gorau – a chasglu medal gobeithio!

Mae’r ffin rhwng llwyddo a methu mewn chwaraeon ar lefel y byd yn un denau iawn.  Mae paratoi’n hanfodol ac mae Rheolwr y Tîm yn chwarae rhan allweddol yn y cyswllt hwn.

Mae Cymru wedi’i bendithio â nifer o Reolwyr Tîm hynod brofiadol a medrus, y gellir eu defnyddio i gefnogi ein hathletwyr yn yr India.