Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad

Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad

Cystadlodd Cymru am y tro cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad yn Hamilton yn 1930 ac mae’n un o blith dim ond chwe gwlad i fod wedi cymryd rhan ym mhob un o Gemau’r Gymanwlad ers hynny.

Wedi cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau cyntaf gan ennill 3 medal, enillodd Cymru ei medalau Aur cyntaf yn yr achlysur yn 1938 yn Sydney, gydag athletau a bocsio’n ennill yr anrhydedd.  Cynhaliwyd y Gemau yng Nghaerdydd yn 1958 ac arwr y medal aur oedd Howard Winstone, a enillodd adran pwysau bantam y dynion yn y cylch bocsio.   

Ers 1930, mae Cymru wedi ennill 215 o fedalau, gyda 49 o fedalau aur.  Ar hyn o bryd, mae gan Gymru 15 record yn y Gemau, yn cynnwys record y feicwraig, Nicole Cooke, y rhedwr, Iwan Thomas, y neidiwr clwydi, Colin Jackson a’r codwyr pwysau, Michela Breeze a Dave Morgan.

Yng Ngemau 2006 ym Melbourne, llwyddodd Tîm Cymru, gydag un o brif baralympiaid y byd yn gapten arno, Y Fonesig Tani Grey-Thompson, i sicrhau 19 medal.         

Gan na all Cymru gystadlu yn y Gemau Olympaidd fel cenedl ar ei phen ei hun, Gemau’r Gymanwlad yw’r unig gyfle i Gymru gystadlu mewn achlysur aml-chwaraeon rhyngwladol mawr.  Mae Cymru’n gwneud yn well na’r disgwyl yn draddodiadol yng Ngemau’r Gymanwlad ac enillwyd mwy o fedalau y pen na Lloegr, yr Alban ac Iwerddon, o ran poblogaeth y wlad, gan Gymru ym Melbourne 2006.

Tabl Medalau Cymru   

Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig 1930 - Hamilton
Aur 2, Arian 1, Efydd 3

Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig 1934 – Llundain
Aur 3, Arian 3,  Efydd 6

Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig 1938 - Sydney
Aur 2, Arian 1, Efydd 3

Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig 1950 - Auckland
Aur 1, Arian 1, Efydd 1

Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a Gemau’r Gymanwlad 1954 - Vancouver 
Aur 1, Arian 5, Efydd 7
 
Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a Gemau’r Gymanwlad 1958 - Caerdydd 
Aur 1, Arian 3, Efydd 7 

Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a Gemau’r Gymanwlad 1962 – Perth, Awstralia
Aur 2, Arian 4, Efydd 6    

Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a Gemau’r Gymanwlad 1966 - Kingston Jamaica
Aur 3, Arian 2, Efydd 2    

Gemau Cymanwlad Prydain 1970 – Caeredin 
Aur 2, Arian 6, Efydd 4

Gemau Cymanwlad Prydain 1974 – Christchurch, Seland Newydd
Aur 1, Arian 5, Efydd 4   

Gemau’r Gymanwlad 1978 - Edmonton 
Aur 2, Arian 1, Efydd 5 

Gemau’r Gymanwlad 1982 - Brisbane 
Aur 4, Arian 4, Efydd 1 

Gemau’r Gymanwlad 1986 – Caeredin  
Aur 6, Arian 5, Efydd 12 

Gemau’r Gymanwlad 1990 - Auckland 
Aur 10, Arian 3, Efydd 12 

Gemau’r Gymanwlad 1994 – Victoria, Canada 
Aur 5, Arian 8, Efydd 6 

Gemau’r Gymanwlad 1998 - Kuala Lumpur 
Aur 3, Arian 4, Efydd 8 

Gemau’r Gymanwlad 2002 - Manceinion 
Aur 6, Arian 13, Efydd 12 

Gemau’r Gymanwlad 2006 - Melbourne 
Aur 3, Arian 5, Efydd 11 

Cyfanswm yr Aur 49 
Cyfanswm yr Arian 69 
Cyfanswm yr Efydd 97